Gwaith Cartref
Gwaith Cartref Ysgol Sarn Bach
Bydd gwaith cartref yn cael ei osod yn wythnosol i holl blant yr ysgol.Ceisiwn osod gwaith cartref sydd yn atgyfnherthu gwaith y dosbarth neu sy’n ymwneud â thema’r dosbarth. Mae’n fodd o sicrhau bod plentyn yn meithrin yr hyder i weithio’n annibynnol tu allan i sefyllfa’r dosbarth/ ysgol. Mae’n gyfle i’r rhieni gymryd rhan weithredol yn addysg y plant.
Dylai pob gwaith cartref fod yn adlewyrchiad o ymdrech gorau pob plentyn. Nid yw’r athrawon yn fodlon derbyn gwaith blêr sy’n îs na gallu’r plentyn a bydd disgwyl i’r plentyn ail wneud y gwaith.
Cynllun Darllen gyda fi!
Mae’r ysgol yn ceisio hybu rhieni i gyd-ddarllen gyda’r plant o’r meithrin hyd at blwyddyn 6. Bydd yr ysgol yn darparu bag ysgol i’r plant ddal eu llyfrau yn drefnus a disgwylir i’r plant ddychwelyd eu llyfrau yn ddyddiol ond ddim mor aml erbyn iddynt ddatlbygu i fod yn ddarllenwyr da. Rydym yn annog y rhieni i gofnodi yn eu llyfrau cofnod.
|