Triathlon
Er mwyn codi arian i gael i pads ir Ysgol noddwyd y plant i wneud triathlon casglwyd £1,725. Cafwyd ddiwrnod da iawn gan ddechrau gyda nofio yn y Ganolfan Hamdden a beicio a rhedeg ym Mharc Glasfryn. Yna yn ol ir ysgol i gael rhannu medalau i bawb am gystadlu a cafwyd ddiod a cacen gan ferched y Wawr Abersoch.
Caerdydd
|
Cafodd blant blwyddyn 6 gyfle i fynd am drip addysgiadol am dri diwrnod i Gaerdydd. Bu’r plant yn ymweld â Sain Ffagan, Techniquest a’r Senedd. |
Ynys Enlli
|
|
Bu blwyddyn 5 a 6 yn ymeld a Ynys Enlli am y diwrnod gyda Elfed Griffiths yn ein tywys o amgylch yr Ynys. Cafwyd diwrnod da iawn. |
Sŵ Bae Colwyn
Ein trip diwedd tymor eleni oedd mynd i Sŵ Bae Colwyn. Cawsom lawer o hwyl yn gweld y mwnciod a’r pengwins a llawer mwy.