Cyfnod Sylfaen
Ysgol Sarn Bach
Cwricwlwm ar gyfer plant oedran Meithrin hyd at Blwyddyn 2 yw’r Cyfnod Sylfaen. Yn y Cyfnod Sylfaen mae’r ffocws ar ddarparu’r cyfleoedd i ddisgyblion ddatblygu eu sgiliau drwy ysgogi gweithgareddau chwarae strwythuredig sy’n cael eu gwau i’r profiadau dysgu.
Cliciwch yma i weld lluniau o weithgareddau y Cyfnod Sylfaen
Mae saith maes dysgu i’r Cyfnod Sylfaen:
- Datblygiad Personol a Chymderithasol
- Sgiliau Iaith, Llythrennedd a Chyfathrebu
- Datblygiad Mathemategol
- Datblygiad Creadigol
- Datblygiad Corfforol
- Gwybodaeth a Dealltwriaeth o’r Byd
- Rydym yn gosod pwyslais ar ddatblygu’r plant mewn sgiliau a dealltwriaeth, llês personol, cymdeithasol, emosiynol, corfforol a deallusol er mwyn datblygu’r plentyn cyfan. Annogir y plant i ddatblygu hunan-barch a hunan-hyder i arbrofi, ymchwilio, dysgu pethau newydd a ffurfio perthynas newydd ag eraill er mwyn annog eu datblygiad fel unigolion.
Datblygiad Personol, Cymdeithasol a Lles
Mae’r maes hwn o ddysgu yn canolbwyntio ar y plant yn dysgu amdanynt eu hunain a’u perthynas gyda phlant ac oedolion eraill. Anogir hwy i ddatblygu eu hunan-barch, eu credoau personol a’u gwerthoedd moesol. Mae’r Cam Sylfaen yn cefnogi nunaniaeth ddiwylliannol pob plentyn, i ddathlu gwahanol ddiwylliannau a chynorthwyo plant i adnabod ac ennill ymwybyddiaeth gadarnhaol o ddiwylliant eu hunain ac un eraill. Cefnogir y disgyblion i ddod yn feddylwyr a dysgwyr hyderus, hyfedr ac annibynnol.
Mae disgyblion y Cyfnod Sylfaen yn dilyn Cwricwlwm Wester Stratton ac Ysgol Dina i hyrwyddo eu datblygiad lles, emosiynol a chymdeithasol.Cynhelir sesiynnau yn wythnosol.
Sgiliau iaith, Llythrennedd a Chyfathrebu
Mae’r maes dysgu hwn yn canolbwyntio ar y disgyblion yn cael amrywiaeth o brofiadau a gweithgareddau ieithyddol. Rhoddir pwyslais ar ddatblygu sgiliau siarad a gwrando’r plant, a fydd yn gosod sylfaen gadarn i ddatblygu sgiliau darllen ac ysgrifennu.Mae’r disgyblion yn cyfeirio at eu bwriadau drwy ofyn cwestiynau, mynegi barn, adweithio i sefyllfaoedd a gwneud dewisiadau drwy amrywiaeth o gyfryngau.Anogir hwy i wranado ar eraill ac ymateb iddynt. Maent yn cael cyfleoedd i ddewis a defnyddio deunyddiau darllen, yn deall confensiynau argraff a llyfrau a rhoddir iddynt ystod eang o gyfleoedd i fwynhau gwneud marciau ac ysgrifennu.
Datblygiad Mathemategol
Mae’r maes dysgu hwn yn canolbwyntio ar blant yn
datblygu eu sgiliau, eu gwybodaeth a’u
dealltwriaeth o fathemateg drwy ddatrys
problemau. Maent yn defnyddio rhifau yn eu
gweithgareddau dyddiol ac yn datblygu ystod o ddulliau hyblyg ar gyfer datblygu mathemateg pen er mwyn datrys problemau o amrywiaeth o gyd-destunau, gan symud i ddefnyddio dulliau yn ddatblygiadol. Maent yn ymchwilio i siâp a mesur, yn trefnu, cyfatebu a dilyniannau a chymharu gwrthrychau a chreu patrymau.
Datblygiad Creadigol
Mae’r maes dysgu hwn yn canolbwyntio ar blant yn datblygu eu dychymyg a’u creadigrwydd drwy’r cwricwlwm. Ysgogir eu chwilfrydedd naturiol a’u tueddiad i ddysgu gan brofiadau synhwyrol bob dydd. Mae’r disgyblion yn ymrwymo mewn gweithgareddau creadigol, dychmygus a mynegiannol mewn celf, crefft, cynllunio cerddoriaeth, dawns a symud.
Datblygiad Corfforol
Canolbwyntir yn y maes yma ar agweddau a datblygiad corfforol y plant. Bydd brwdfrydedd ac egni plant yn cael eu hannog yn barhaus i ddefnyddio eu cyrff yn effeithiol drwy hybu eu hymwybyddiaeth ofodol, eu cydbwysedd eu rheolaeth a’u sgiliau cydsymud, a datblygu eu sgiliau echddygol a llawdriniol. Anogir y plant i fwynhau gweithgareddau corfforol a chysylltir eu synnwyr datblygol a hunaniaeth yn agos â’u hunan-ddelwedd, eu hunan-werth a’u hyder. Cyflwynir i’r disgyblion gysyniad iechyd, hylendid a diogelwch a phwysigrwydd diet, gorffwys, cwsg ac ymarfer.
Gwybodaeth a Dealltwriaeth o’r Byd
Mae’r maes dysgu hwn yn annog y plant i brofi’r byd cyfarwydd trwy ymholi, gan archwilio mewn modd diogel a systematig yr amgylchedd a geir dan do ac yn yr awyr agored. Cynigir profiadau iddynt sy’n eu helpu i gynyddu eu chwilfrydedd ynghylch y byd sydd o’u cwmpas a’u helpu i ddechrau deall digwyddiadau’r gorffennol, pobl a lleoedd, pethau byw, a’r gwaith y mae pobl yn ei wneud. Byddent yn dysgu dangos gofal, cyfrifoldeb, consyrn a pharch at bob peth byw a’r
amgylchedd.
|