Adran Iau

Y Cwricwlwm Cenedlaethol

Y Cwricwlwm Cenedlaethol
Cylfwynir cwricwlwm cytbwys ac eang sy’n ymwneud â datblygiad ysbrydol, moesol, meddyliol, cymdeithasol, corfforol ac emosiynol y plentyn.Gwneir hyn yn bennaf drwy’r dull thematig.Gellir gweld y dogfennau yn yr Ysgol.

Rhifedd
Mae syniadau a thechnegau mathemategol yn rhan hanfodol o fywyd pob dydd ac yn cyfrannu’n sylweddol at ein dealltwriaeth o’r byd o’n cwmpas.
Anelir yr ysgol i ddatblygu agwedd bositif tuag at fathemateg fel pwnc diddorol i’w fwynhau.Ceisiwn ddatblygu yn y plentyn y gallu i feddwl yn glir ac yn rhesymegol gyda hyder ac ystwythder fydd yn arwain at y ddawn i fynegi syniadau’n glir, drafod y pwnc gyda sicrwydd ac i ddefnyddio iaith fathemategol a’i gymhwyso i sefyllfaoedd yn y cartref, yr ysgol a’r gymdeithas.

Gwyddoniaeth
Mae gwyddoniaeth yn rhan o fywyd a bydd y plentyn yn datblygu;
- Meddwl dadansoddol a beirniadol drwy ddilyn dulliau rhesymegol a darganfod yn seiliedig ar arsylwi, dyfalu ac arbrofi;
- Dealltwriaeth o bethau byw a phrosesau sylfaenol bywyd;
- Dealltwriaeth o’r modd y gellir defnyddio a datblygu adnoddau’r amgylchfyd.
- Ymdrinnir â materion rhyw mewn ffordd sensitif yn y gwersi Addysg Bersonol a Chymdeithasol a Gwyddoniaeth.

Iaith
Mae iaith yn ddylanwad unigryw yn natblygiad plentyn ac yn sylfaen pob dysg. Ceisiwn feithrin agwedd gadarnhaol at iaith drwy gynnig i blentyn amrywiol brofiadau a fydd yn symbylu ymateb synhwyrol, bywiog a deallus a fydd yn datblygu gallu ieithyddol plentyn yn ei holl agweddau goddefol a gweithredol- a hynny yn y ddwy iaith.
Byddwn yn meithrin diddordeb plentyn mewn llenyddiaeth yn ei hamryfal ffurfiau gan sicrhau bod y profiad o ddarllen, gwrando, gwylio ac ymateb bob amser yn bleserus ac yn foddhaus.Drwy wneud hyn, byddwn yn creu yn y plentyn ymwybyddiaeth o werth yr etifeddiaeth Gymreig fel y gall ymdeimlo â chyfoeth i gefndir (cynhenid neu fabwysiedig) a pharchu gwahanol ddiwylliannau.

Gwrando
Datblygu gallu plentyn i wrando’n effeithiol mewn sefyllfaoedd torfol, sefyllfaoedd grŵp ac fel unigolyn er mwyn iddo gael pleser neu ddiddanwch, ymateb i gyfarwyddyd ac ymateb yn greadigol.

Siarad
Datblygu gallu plentyn i siarad yn glir, yn ddealladwy ac yn hyderus mewn iaith briodol i’r sefyllfa dan sylw, gan ymarfer gofal a chywirdeb.

Darllen
Meithrin y plentyn fel darllenwr o’r cychwyn cyntaf fel y gall:
Gael pleser neu ddiddanwch;
Ddyfnhau ei ddealltwriaeth a chasglu gwybodaeth
Gwerthfawrogi llyfrau da.

Ysgrifennu
Rhoi cyfle i’r plentyn ymateb yn ysgrifenedig i wahanol brofiadau a sefyllfaoedd ac i ysgrifennu i wahanol ddibenion fel y gall;
Ddefnyddio ysgrifennu fel cyfrwng i ddod i delerau â’ifyd;
Ddefnyddio ysgrifennu i ddyfnhau’i ddealltwriaeth;
Ddewis a defnyddio ffurf ar ysgrifennu sy’n briodol ar gyfer y pwrpas sydd iddo.

Dylunio a Thechnoleg
Prif nodwedd Dylunio a Thechnoleg yw’r ffaith ei fod yn rhoi cyfle i ddisgyblion wireddu a chynrychioli syniadau o’r dychymyg ar ffurf darluniau, cynlluniau, modelau,
arddangosfeydd ac efelychiadau
cyfrifiadurol. Mae datblygiad syniadau o’r egin cyntaf i’r penllanw fel canlyniad ymarferol yn broses a elwir yn Broses Dylunio.

Addysg Grefyddol a Chyd-Addoli
Mae gwasanaethau boreol yr ysgol yn rhan bwysig o ethos ac ymdeimlad yr ysgol. Cysylltir yr agwedd grefyddol â phrofiadau plant yn eu bywydau beunyddiol, gan bwysleisio’r agwedd o feddwl am eraill a gofalu amdanynt. Cyflwynir gwybodaeth am grefyddau’r byd ond pwysleisir y grefydd Gristnogol. Trefnir casgliadau tuag at achosion dyngarol lleol a chenedlaethol.
Rhoddir hawl i rieni i eithrio’u plant o wersi Addysg Grefyddol a Chydaddoliad os bydd rhesymau priodol.

Cerddoriaeth
Rhoddir cyfle i bob plentyn yn yr Adran Iau ddysgu chwarae recorder ac i gael gwersi Cerddoriaeth sy’n cynnwys canu, cyfansoddi a gwaith offerynnol. Bydd yr ysgol yn cystadlu yng nghystadleuthau’r Urdd.
Mae cyflei’r plant o flwyddyn 3 ymlaen gael gwersi ffidil ac offerynnau pres. Yn anffodus mae’n rhaid codi ffi am y gwersi.
Mae’r gwersi yma yn llwyddiannus iawn.
Cynhelir Cyngherddau Nadolig yn y neuadd lle caiff pob plentyn y cyfle i ymddangos ar y llwyfan.

Addysg Gorfforol
Mae’r ysgol yn darparu amgylchedd sy’n symbyliad ac yn ddiogel i ddisgyblion lle gallant weithio tuag at aeddfedrwydd cyffredinol wrth ddatblygu sgiliau corfforol. Darperir gweithgareddau sy’n rhoi mwynhad i’r disgyblion wrth ddiwallu eu hanghenion creadigol. Byddwn yn dysgu a darparu cyfle i ymarfer a gwella ar sgiliau sy’n berthnasol i’r gweithgaredd. Trefnir cwrs o wersi nofio ym mhwll nofio Pwllheli i’r holl ysgol drwy’r flwyddyn. Teimlir fod cyfnodau fel hyn yn ddull mwy llwyddiannus o gael y plant i nofio. Anelir at gael pob plentyn yn nofio o leiaf 25m cyn diwedd Blwyddyn 6.

Technoleg Gwybodaeth
Mae’r Datblygiadau diweddaraf ym myd addysg wedi rhoi statws uchel i Dechnoleg Gwybodaeth, ynghyd â disgrifiad clir o natur y pwnc. Nodweddir gallu Technoleg Gwybodaeth gan allu i ddefnyddio offer a ffynonellau gwybodaeth T.G. yn effeithiol i ddadansoddi, prosesu a chyflwyno gwybodaeth ac i fodelu, mesur a rheoli digwyddiadau allanol. Yn Ysgol Sarn Bach rhoddir pwyslais ar ddatblygu T.G. drwy bynciau’r Cwricwlwm Cenedlaethol, a gwelir y cyfrifiadur fel ‘arf trawsgwricwlaidd’. Mae’r ysgol yn diweddaru adnoddau T.G.Ch yn gyson ac mae hyn yn cynnwys cysylltiad di-wifr drwy’r ysgol.

Celfyddydau
Mynegiant yw celfyddyd lle defnyddir plentyn ei synhwyrau i sylwi, i ddychmygu, i ryfeddu ac i greu.Credwn yn gryf fod gan y celfyddyd au swyddogaeth bwysig iawn yn natbylgiad y plentyn a byddwn yn ei ysgogi i gymryd rhan mewn gweithgareddau cerddorol, drama, symud a dylunio, crefft a thechnoleg.Yn yr ysgol rhoddir gyfel i blentyn i roi ei ddychymyg, ei wreiddioldeb a’i chwilfrydedd ar waith.

Dyniaethau
Fel rhan o’r gwaith themau y cyflwynir yn y dyniaethau a’n hamcanion yma yw datblygu plant sy’n mynd i dyfu i fod yn aelodau cyflawno’u cymunedau ac yn oedolion sy’n mynd i gyfrannu’n gadarnhaol tuag at ddyfodol eu cymuned ac, ar yr un pryd i feithrin parch tuag at yr amrywiaeth o werthoedd a chymdeithasau gwahanol sydd i’w cael yn y byd.

Drwy astudiaethau daearyddol ceisir cyflwyno fframwaith o wybodaeth am leoliad a lleoedd ac am nodweddion pwysig cyfundrefnau ffisegol y Ddaear ac effaith dyn ar ein amgylchfyd. Rhoi ymdeimlad o’r gorffennol a ffordd o fyw yw ein hamcan wrth gyflwyno hanes i’n plant. Ceisir datblygu ynddynt ymdeimlad o amser, dilyniant, newid a chronoleg i’w cael i sylweddoli sut mae’r gorffennol wedi ffurfio’r gymdeithas a’r byd y maent yn rhan ohono a hefyd i gael perspectif o’r presennol – ei werthoedd, ei arferion a’i gysylltiadau.

Y Cwricwlwm Cudd
Ar wahanân i arbenigedd unigol y staff addysgu, dyma’r peth sy’n bennaf gyfrifol am roi i bob ysgol ei chymeriad ungiol ac unigryw ei hun. Dyma’r rhan o’r cwricwlm na ellir ei osod o dan benawdau- yr athroniaeth y tu cefn i’r dysgu ac ysgogiadau’r staff, ynglyn â’r ffordd y mae polisiau’r ysgol yn ystyried natur y gymdeithas a wasanaethir ganddi- dyna sy’n rhoi i ysgol ei chymeriad ei hun.

Yn Ysgol Sarn Bach rydym yn ymrechu i gynnig amrywiaeth eang o brofiadau er mwyn ysgogi anghenion gwahanol bob plentyn. Rydym yn sylweddoli fod disgyblion i gyd yn wahanol i’w gilydd a bod ganddynt yr hawl i lwyddo mewn gwhanaol ffyrdd. Nid pawb sy’n llwyddo’n academaidd ac felly rydym yn gweld pwysigrwydd mewn rhoi amrywiaeth o brofiadau er mwyn dangos a datblygu eu doniau tu allan i furiau’r dosbarth. Rydym yn arwain y plant i allu datrys problemau’n greadigol a defnyddio’u sgiliau wrth ddatblygu’n ddinasyddion y dyfodol.

Mentro
Mae’r Ysgol yn annog y disgyblion i gymeryd rhan mewn gweithgareddau mentergarwch. Mae’r disgyblion wedi cael cyfle i gyd-weithio a chreu busnes er mwyn gwneud elw o werthu ‘smwddis’. Caiff y disgyblion brofiadau o hysbysebu, costio nwyddau, gwerthu a chyfrifo’r elw. Rydym yn manteisio ar bob cyfle i gael aelodau o fusesau lleol i gyd-weithio a’r ysgol er mwyn rhoi profiadau real i’r disgyblion o fyd busnes. Maent yn defnyddio elw o un fenter i ddatblygu menter arall.