Siarter Iaith


Siarter Iaith

Gweledigaeth Ysgol Sarn Bach
Ein bwriad ar gobaith yw i bob plentyn allu a dewis siarad Cymraeg graenus ym mhob agwedd o fywyd yr ysgol, i ymfalchio yn iaith, diwylliant a thraddodiadau Cymreig.

Gweithgareddau Siarter Iaith
Mae siarad dwy iaith yn agor drysau i gymuned , byd gwaith a bywyd cymdeithasol llawer mwy amrywiol. Dwy iaith dwywaith y dewis.

Noson Lansio’r Siarter Iaith

lansio


Er mwyn cyflwyno’r siarter i rieni a phobl yr ardal cafwyd noson lwyddiannus iawn yn neuadd Absersoch le roedd y plant yn canu caneuon traddodiadol a perfformio sioe gerdd Nia Ben Aur.

Am fwy o luniau, cliciwch yma

I weld y fideos ewch i'r Wal Fideo


Llwyddo yn Gymraeg- Mae siarad sawl iaith yn agor drysau i fyd newydd.

Ymweliad Malcolm Allen

malcs Daeth peldroediwr a’r sylwebydd Malcolm Allen i’r ysgol i sgwrsio am eu hanes fel bachgen bach o Ddeiniolen yn mynd i ffwrdd o adref i ddilyn ei breuddwyd.

Bu’n lwcus iawn o gael dod yn ol i Gymru a chael bywoliaeth lewyrchus wrth siarad Cymraeg.

Cafodd y plant eu hysbrydoli i dorchi llewis a gweithio’n galed er mwyn cyrraedd eu creuddwydion.


Ymweliad Ed Holden

ed Daeth Ed Holden i’r ysgol i ganu a sgwrsio am ei waith a sut roedd siarad Cymraeg yn agor drysau iddo i fyd teledu a radio.

Roedd pawb wedi rhyfeddu wrth wrando arno yn rapio a chreu synnau gyda’r meicroffon.
Bu’n canu a chyfansoddi rap am yr ardal leol.


Canu yn Gymraeg
Daeth Cowboi Rhos Botwnnog y band llwyddiannus i lansio CD newydd ‘Codi Angor’. Dyma i chi dri brawd sy’n gwneud bywoliaeth a chael crwydro’r byd gan ddefnyddio’r iaith Gymraeg.
Cafodd y plant hwyl yn canu cân Fflat Huw Puw ac ambell i gan Nia Ben Aur.