Croeso

Annwyl Rieni,

Rydym yn croesawu chi a’ch plentyn i Ysgol Sarn Bach.Tra bydd eich plentyn dan ein gofal gwnawn ein gorau i sicrhau y bydd yn hapus ac yn ddiogel ac yn cael y safon orau o addysg.

Mae'r ysgol yn gymuned hapus a chartrefol lle’r ymdrechir i hyrwyddo twf ysbrydol a moesol y plant. Yma mae cyswllt agos gyda phob teulu a gweithredir polisi o ymateb i broblemau neu anawsterau drwy eu trafod gyda'r rhieni.

Hoffwn weld bob plentyn yn edrych yn ôl ar ei blentyndod fel cyfnod hapus sydd wedi bod yn sylfaen gadarn i’w fywyd wrth iddynt ddatblygu’n ddinasyddion y dyfodol.

Partneriaeth yw addysg rhwng yr ysgol a'r rhieini er budd ein plant.Mae ein dylanwad a’r gefnogaeth yn amhrisiadwy yn natblygiad cymdeithasol ac addysgol eich plentyn. Hoffwn weld y bartneriaeth yma gweithio’n dda a bod anghneion y disgybl yn flaenoriaeth gennym ac yn codi uwchlaw popeth arall.

Yn gywir

Mrs. Nina Williams